Skip to main content

Mae’r PSA yn ymgynghori ar ganllawiau newydd i reolyddion ar wneud rheolau ac addasrwydd i ymarfer

Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol (PSA) yn ceisio barn tan 5pm ar ddydd Llun 15 Ebrill ar ddwy ddogfen ganllaw ddrafft i gefnogi rheolyddion gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddefnyddio eu pwerau newydd o ran llunio rheolau ac addasrwydd i ymarfer. Bydd y pwerau newydd i reolyddion yn dod i rym ar ôl cyflwyno rhaglen diwygio rheolyddion yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y templed ar gyfer diwygio yn seiliedig ar y model a amlinellwyd yn y Gorchymyn Cymdeithion Anaesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024 a osodwyd yn ddiweddar.  

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu newid y ddeddfwriaeth ar gyfer naw o’r deg rheolydd gofal iechyd proffesiynol yr ydym yn eu goruchwylio, gan roi ystod o bwerau newydd iddynt a chaniatáu iddynt weithredu mewn ffordd wahanol iawn.

Bydd y pwerau yn rhoi llawer mwy o ryddid i reolyddion benderfynu sut y maent yn gweithredu, gan gynnwys yr hyblygrwydd i osod a diwygio eu rheolau eu hunain. Bydd hefyd yn creu proses hollol newydd ar gyfer ymdrin â phryderon addasrwydd i ymarfer (y broses ar gyfer ymdrin â phryderon am weithwyr gofal iechyd proffesiynol) gan ganiatáu ffordd gyflymach a llai gwrthwynebus o ymdrin â phryderon am weithwyr proffesiynol, y tu allan i wrandawiad cyhoeddus.

Prif effaith y newidiadau hyn yw y bydd gan y rheolyddion fwy o ryddid nag sydd ganddynt ar hyn o bryd, i benderfynu sut i ddefnyddio eu pwerau, ac i wneud penderfyniadau unigol am weithwyr proffesiynol.

Mae’r PSA wedi cynhyrchu canllawiau i helpu’r rheolyddion i ddefnyddio’r pwerau newydd hyn yn effeithiol – ac maent yn ceisio adborth ar y canllaw hwn. Fel y corff goruchwylio ar gyfer y rheolyddion, mae’r PSA mewn sefyllfa unigryw i edrych ar eu traws a darparu cyngor ar arfer da. Bwriad y canllawiau yw helpu llunio’r ffordd y caiff y pwerau newydd hyn eu defnyddio, cefnogi’r rheolyddion wrth i bob un ddatblygu eu canllawiau eu hunain ar draws eu swyddogaethau rheoleiddio gwahanol, a hyrwyddo dull gweithredu cadarn a chyson.

Gellir dod o hyd i'r ymgynghoriad yma ac mae ar agor tan 5pm ddydd Llun 15 Ebrill 2024. Rydym yn croesawu ymatebion i unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad.

DIWEDD

Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd 

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cyflawni archwiliadau ac ymchwiliadau a gallu apelio achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym yn ystyried bod sancsiynau yn annigonol i ddiogelu’r cyhoedd ac os yw hyn er lles y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy’n cynnal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer swyddi iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn achredu’r rhai sy’n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cyflawni ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i’n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ac yn darparu cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Rydym yn gwneud hyn i hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, sy’n atebol i Senedd y Deyrnas Unedig.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gwaith a dull o weithredu ar www.professionalstandards.org.uk
  8. Mae rheolyddion o fewn cwmpas diwygiadau’r Llywodraeth i reoleiddio gofal iechyd proffesiynol yn cynnwys: y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Cyngor Optegol Cyffredinol, y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol, y Cyngor Osteopathig Cyffredinol a Chymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon. Nid yw Social Work England, y rheolydd sy’n weddill o dan gylch gwaith y PSA, wedi’i gwmpasu gan y rhaglen ddiwygio gan fod eu deddfwriaeth yn fwy modern a’u pwerau eisoes yn debyg i’r model sy’n cael ei gyflwyno.