Skip to main content


Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau – gwyliwch y gofod hwn am y camau nesaf

 

Ymgynghoriad ar ddogfennau canllaw arferion da yr Awdurdod Safonau Proffesiynol: Canllaw ar y defnydd o Ganlyniadau Derbyniol mewn Addasrwydd i Ymarfer 

Canllaw ar Lunio rheolau

Ynglŷn â beth mae’r ymgynghoriad?

Cyd-destun ar gyfer ein hymgynghoriad

Mae'r Llywodraeth yn y broses o ddiwygio'r ffordd y mae gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn cael eu rheoleiddio. Mae’n bwriadu newid y ddeddfwriaeth ar gyfer naw o’r 10 rheolydd gofal iechyd proffesiynol yr ydym yn eu goruchwylio, gan roi ystod o bwerau newydd iddynt a chaniatáu iddynt weithredu mewn ffordd wahanol iawn.

Bydd y newidiadau mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno yn rhoi llawer mwy o ryddid i reolyddion benderfynu sut y maent yn gweithredu, gan gynnwys cyflwyno’r hyblygrwydd i osod a diwygio eu rheolau eu hunain. Bydd newidiadau hefyd i bwerau a threfniadau llywodraethu rheolyddion.

Bydd y newidiadau hefyd yn creu proses hollol newydd ar gyfer ymdrin ag addasrwydd i ymarfer (y broses ar gyfer ymdrin â phryderon am weithwyr gofal iechyd proffesiynol). O dan y system newydd, mae disgwyl i fwy o achosion gael eu trin ar bapur drwy broses a elwir yn ‘ganlyniad a dderbynnir’ yn hytrach na mynd i wrandawiad ffurfiol.

Rydym wedi cynhyrchu dwy set o ganllawiau i helpu rheolyddion i ddefnyddio eu pwerau newydd yn effeithiol:

Canllaw ar ganlyniadau derbyniol mewn addasrwydd i ymarfer

Mae ein canllaw ar y defnydd o Ganlyniadau Derbyniol mewn Addasrwydd i Ymarfer yn nodi ffactorau allweddol i reolyddion eu hystyried wrth ddatblygu eu canllawiau eu hunain ar ddefnyddio canlyniadau derbyniol. Mae’r canllawiau’n cynnwys ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu a yw achos yn cael ei ddatrys orau gan ganlyniad derbyniol neu banel addasrwydd i ymarfer(y llwybr gwaredu) yn ogystal â ffactorau i reolyddion eu hystyried i sicrhau bod y broses canlyniadau derbyniol yn deg ac yn dryloyw, ac i hyrwyddo gwneud penderfyniadau effeithiol.

Canllaw ar lunio rheolau

Nod ein canllaw ar lunio rheolau yw helpu rheolyddion i wneud defnydd effeithiol o’u pwerau llunio rheolau newydd mewn modd sy’n blaenoriaethu amddiffyn y cyhoedd. Mae’n cynnwys rhai egwyddorion i arwain yr hyn y dylai rheolau da anelu at ei wneud neu fod, a'r broses llunio rheolau.

Rydym yn ceisio eich adborth ar y ddau ddarn o ganllawiau trwy'r un ymgynghoriad hwn. Mae'r papur ymgynghori yn esbonio mwy am y strwythur ac yn nodi'n glir pa gwestiynau sy'n ymwneud â pha ganllawiau.

Darllenwch drwy'r ymgynghoriad llawn i ddarganfod mwy. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg. [consultaiton paper]

Pam ydym ni’n ymgynghori?

Rydym yn cefnogi’r diwygiadau i reoleiddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ond rydym hefyd wedi nodi risgiau penodol a allai godi o’r ffyrdd newydd o weithio. Mae datblygu’r canllawiau yr ydym yn ymgynghori arnynt yn awr yn un o’r camau yr ydym yn eu cymryd i helpu i wneud y diwygiadau yn llwyddiant, lliniaru unrhyw risgiau posibl a gwireddu cyfleoedd y diwygiadau.

Mae hefyd yn un o’n rolau craidd (dan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002) hyrwyddo arfer gorau ym mherfformiad swyddogaethau rheolyddion, llunio egwyddorion sy'n ymwneud â rheoleiddio proffesiynol da, ac annog rheolyddion i gydymffurfio â hwy. Rydym am wneud yn siŵr bod rheoleiddio diwygiedig mor effeithiol â phosibl wrth amddiffyn y cyhoedd.

Rydym felly yn ceisio barn gan bawb sydd â diddordeb mewn rheoleiddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys cleifion, y cyhoedd, unigolion cofrestredig, rheolyddion, cyrff proffesiynol a chyflogwyr.

Sut fedra i ymateb?

Ymatebwch i'r papur ymgynghori hwn drwy gwblhau'r arolwg ar-lein sydd ar gael yn Saesneg yma neu yn Gymraeg yma. Wrth ddefnyddio’r arolwg ar-lein, peidiwch ag anghofio cadw eich atebion pan y’ch anogir i wneud hynny.

Gallwch hefyd gyflwyno eich ymateb trwy e-bost – cynhwyswch enw’r ymgynghoriad yn y llinell pwnc. Wrth gyflwyno trwy e-bost, cyfeiriwch eich ymatebion gan ddefnyddio rhifau'r cwestiynau. Dylid anfon ymatebion e-bost at: policy@professionalstandards.org.uk

Rydym yn croesawu ymatebion i unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad.

Anfonwch eich ymateb erbyn 5pm ar dydd Llun, 15 Ebrill 2024

Cysylltiadau cyflym

Y dyddiad cau i ymateb i'n hymgynghoriad yw 15 Ebrill 2024. Gallwch ddarllen drwy:
yr ymgynghoriad
y canllawiau ar Lunio Rheolau
y canllaw ar ganlyniadau derbyniol mewn addasrwydd i ymarfer

Neu gallwch fynd yn syth at yr arolwg yma

Cysylltiadau cyflym:

Darllenwch drwy’r ymgynghoriad ac atebwch y cwestiynau yn Saesneg yma