Skip to main content

Sut yr ydym yn gweithio

Mae ein Bwrdd yn gosod ein strategaeth ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni'n gwaith yn dda. Y prif weithredwr Harry Cayton sy'n arwain ein gwaith. Mae ef a'n staff yn annibynnol o lywodraeth (nid ydynt yn weision sifil nac yn gyflogeion i'r GIG).

Mae gan ein staff (oddeutu 40 o bobl) amrywiol sgiliau a rolau yn cynnwys cyfreithiol, llywodraethu, cynnal adolygiadau ac archwiliadau, polisi, ymchwil a gweithrediadau a chyllid.

Mae gennym dair cyfarwyddfa: Craffu ac Ansawdd (goruchwylio rheolyddion a pha mor dda maent yn gweithio), Safonau a Pholisi (datblygu safonau a dylanwadu ar bolisi rheoleiddiol), Gweithrediadau a Llywodraethu (rheoli sut ydyn ni'n darparu ein gwasanaethau). Mae'r rhan fwyaf o'n staff yn gweithio yn Craffu ac Ansawdd.

Sut yr ydym yn cael ein hariannu

Mae ein cyllideb flynyddol pob blwyddyn yn llai na £4 miliwn. Rydym wedi ein hariannu mewn tair ffordd:

  1. Mae'r naw rheolydd yr ydym yn eu goruchwylio yn talu ffi orfodol i ni pob blwyddyn. Darparodd y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 i'r Awdurdod gael ei ariannu yn bennaf gan y cyrff rheoleiddio
  2. Mae Cofrestrau Achrededig yn gwneud cais i gael eu rheoleiddio ac i dalu ffi i ni i asesu os ydynt yn bodloni ein safonau
  3. Mae'r Adran iechyd a chyrff eraill yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol yn ein comisiynu i'w darparu â chyngor neu i gyflawni adolygiadau.

Pwy sy'n ein goruchwylio

Senedd sy'n goruchwylio ein gwaith. Mae'r Cyfrin Gyngor yn ymgynghori ar y gyllideb yr ydym yn dweud sydd ei hangen i wneud ein gwaith ac yn gosod y ffioedd y mae'n rhaid i'r rheolyddion dalu. Gall y Pwyllgor Iechyd alw arnom i roi cyfrif o'n gwaith.

Ein hawdurdod cyfreithiol

Cawsom ein sefydlu dan Ddeddf Diwygio'r GIG a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002. Mae ein deddfwriaeth wedi ei addasu ers hynny. Y ddeddfwriaeth fwyaf diweddar oed dy Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2012), a roddodd ddau gyfrifoldeb rheoleiddiol newydd i ni parthed ein gwaith gyda Chofrestrau Achrededig; a'n gwaith yn cynghori'r Cyfrin Gyngor ynghylch penodiadau i Gynghorau'r naw rheolydd. Mae gennym awdurdod i:

  • Adolygu penderfyniadau a wnaed gan y daw rheolydd ynghylch ‘addasrwydd i ymarfer’ ymarferwyr. Mae gennym y grym i apelio penderfyniadau i'r Uchel Lys (y Llys Sesiwn yn yr Alban) os ydyn ni'n eu hystyried i fod yn annigonol ar gyfer diogelu'r cyhoedd.
  • Gyfarwyddo rheolydd i newid ei reolau (nid ydym wedi gorfod gwneud hyn hyd yma)
  • Achredu cofrestrau gwirfoddol sy'n bodloni ein safonau - ac atal achrediad, gweithredu amodau a diddymu achrediad.

Nid oes gennym y grym i ymchwilio i gwynion ynghylch y rheolyddion gan nad yw'r rhan yma o'r ddeddfwriaeth wedi ei roi ar waith, ond rydym yn gwerthfawrogi clywed gan bobl sy'n barod i rannu eu profiadau gyda ni i helpu hysbysu ein gwaith.

Beth rydym yn ei wneud

Darllen hwn nesaf