Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn achredu cofrestrau er mwyn i chi allu bod yn hyderus o ran eich dewis o ymarferwyr iechyd a gofal.
Pan fyddwch yn chwilio am ymarferwr iechyd neu ofal, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Mae’r Awdurdod yn sicrhau bod y cyhoedd wedi ei ddiogelu wrth ddewis a defnyddio gwasanaethau gofal iechyd trwy asesu sefydliadau sy’n cofrestru ymarferwyr, nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan gyfraith, yn gweithio o fewn a thu allan i’r GIG.
Mae cofrestrau achrededig yn helpu pobl i gael gwell gofal trwy sicrhau bod yr ymarferwyr iechyd a gofrestrir ganddynt yn gymwys ac y gellir ymddiried ynddynt. Maent yn gosod safonau i bobl yn gweithio mewn galwedigaethau iechyd a gofal, yn eu hannog i gwrdd â nhw a gweithredu i ddiogelu’r cyhoedd pan fydd angen. Maent yn sicrhau bod yr wybodaeth maen nhw a’u cofrestryddion yn darparu yn glir ac yn eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â’r ymarferydd yr hoffech ei weld ac am y triniaethau, therapïau, gofal a chynnyrch sydd ar gael.
Mae cofrestrau achrededig yn gweithio ar y cyd â chyflogwyr, comisiynwyr, awdurdodau lleol, cleifion ac asiantaethau diogelu defnyddwyr yn rhan o rwydwaith sicrhau ansawdd.
- Maent yn eich galluogi i deimlo’n hyderus bod yr unigolyn a welwch yn gymwys a dibynadwy
- Maent yn cymryd camau cyfreithiol i’ch diogelu rhag risg
- Maent yn cydweithio i wella safonau.
Gall cofrestrau sydd wedi pasio ein hasesiad ddefnyddio ein nod ansawdd ac ymddangos yn Chwilio am Gofrestr. Dim ond cofrestrau yr ydym wedi eu hachredu all wneud hyn, felly gallwch fod yn hyderus ynglŷn â’r ymarferwyr y dewiswch i fodloni eich anghenion, megis aciwbigwyr, cynghorwyr, therapyddion cyflenwol ac ymarferwyr iechyd traed ymysg eraill.
Nid yw’n ofynnol i ymarferwyr nad ydynt wedi eu rheoleiddio fynd ar Gofrestr Achrededig. Maent yn dewis gwneud hynny oherwydd ei fod yn dangos eu hymroddiad i’w maes gwaith ac yn eu gwneud yn rhan o gymuned broffesiynol sy’n gweithio i safonau a pholisïau uchel. Pan fydd y gofrestr maent arni yn arddangos ein nod ansawdd, gallwch fod yn hyderus fod ei ymroddiad i ddiogelwch y cyhoedd wedi ei wirio gennym.
Defnyddiwch y botymau ar y chwith i ddysgu mwy am Gofrestrau Achrededig a’r Safonau sy’n ofynnol i gyflawni ein nod ansawdd.