Ein hymgynghoriad adolygiad strategol o Gofrestrau Achrededig
Lansiwyd ein hadolygiad strategol o'r rhaglen Cofrestrau Achrededig ym Mehefin eleni a dyma’r adolygiad cynhwysfawr cyntaf o’r rhaglen ers ei greu yn 2012.
Mae’r rhaglen Cofrestrau Achrededig yn darparu system o drosolwg a sicrwydd ar gyfer rolau gofal iechyd nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y gyfraith, ac yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae wedi achredu nifer o gofrestrau yn cwmpasu amrywiaeth eang o alwedigaethau.
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn sefydlu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a’n cynigion ar gyfer newidiadau i’r rhaglen yn ystod 2021.
28 Chwefror 2021 yw'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion. Gallwch ddysgu mwy am yr ymgynghoriad yma.