Skip to main content

Datganiad Preifatrwydd 

Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn ymroddedig i ddiogelu preifatrwydd ein hamrywiol bartneriaid. Mae'r polisi hwn yn cwmpasu'r wybodaeth a gesglir gennym pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn gyfan gwbl yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Pa wybodaeth fyddwn ni'n ei chasglu?

Fe allwn gasglu, storio a defnyddio’r mathau canlynol o ddata:

  • gwybodaeth yn ymwneud â thrafodion rhyngom ni a chi, yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw wasanaeth y gofynnwch i ni ddarparu
  • gwybodaeth a roddwch i ni i’r diben o gofrestru gyda ni (yn cynnwys eich manylion cyswllt personol)
  • gwybodaeth a roddwch i ni i’r diben o danysgrifio i’n gwasanaethau gwefan, ceisiadau am swyddi, hysbysiadau e-bost, cylchlythyron, eich ceisiadau i ymuno â’n rhwydweithiau neu systemau cronfeydd data eraill ac ymatebion i'n hymgynghoriadau
  • unrhyw wybodaeth arall fyddwch yn dewis ei anfon atom.

Sut fyddwn yn diogelu’ch gwybodaeth

Rydym yn ofalus iawn o ran diogelu'ch data a manylion unrhyw drafodion fydd gennych gyda ni. Fe wnawn hyn trwy weithredu a gweinyddu gofalus o systemau gwybodaeth ddiogel.

Eich hawliau dan y Ddeddf Diogelu Data 1998

Gallwch gael cadarnhad o’r wybodaeth sylfaenol sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg. Os nad yw’n gywir, fe fyddwn yn ei gywiro’n brydlon wedi derbyn hysbysiad priodol neu dystiolaeth ysgrifenedig gennych.

Gallwch wneud cais ysgrifenedig am yr holl wybodaeth sydd gennym amdanoch dan adran 7 y Ddeddf Diogelu Data 1998. Gweler ein Polisi Deddf Diogelu Data.

Darparwyr Gwasanaethau Trydydd Parti

Mae gennym gytundebau gyda sefydliadau eraill (neu Drydydd Parti) i gyflawni gweithgareddau neu wasanaethau penodol ar ein rhan. Os bydd angen i ni drosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol iddynt, byddwn yn sicrhau:

  • mai dim ond yr wybodaeth maent angen i gyflawni’r gwasanaeth a roddir iddynt
  • eu bod yn llofnodi cytundeb cyfrinachedd sy’n cynnwys datganiad ysgrifenedig na fyddant yn defnyddio’r wybodaeth a dderbyniwyd gennym i unrhyw berwyl ac eithrio’r hyn a ddynodwyd gennym
  • fod ganddynt systemau cywir i ddiogelu data personol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein datganiad preifatrwydd, anfonwch e-bost at info@professionalstandards.org.uk.