Skip to main content

Manteision cofrestrau achrededig

see-the-benefits-banner

 

P’un a ydych yn aelod o’r cyhoedd yn chwilio am ymarferwr iechyd, yn gyflogwr yn recriwtio staff neu’n gomisiynydd yn prynu gwasanaethau, gall Cofrestrau Achrededig eich helpu i ddewis gyda hyder.

Pan fyddwch yn dewis gweld ymarferwr iechyd a gofal, byddwch am wybod eich bod mewn dwylo diogel. Mae defnyddio rhywun ar Gofrestr Achrededig yn rhoi tawelwch meddwl i chi, gan wybod:

  • Bod ymarferwyr ar Gofrestr Achrededig yn rhan o gynllun a gefnogir gan y llywodraeth i ddiogelu’r cyhoedd
  • Bod y sefydliad sydd â Chofrestr Achrededig wedi ei asesu’n drylwyr gennym ac wedi derbyn ein nod ansawdd
  • Ein bod yn sicrhau y rhoddir gwybodaeth glir a chywir i’ch helpu i ddewis ymarferwr i fodloni’ch anghenion
  • Rydym yn sicrhau bod Cofrestrau Achrededig yn delio â chwynion yn deg a chadarn
  • Os yw ymarferwr yn cael ei ddileu o Gofrestr Achrededig, nid yw’n cael ymuno ag un arall yn yr un alwedigaeth (neu un arall mewn galwedigaeth wahanol os yw wedi ei ddiddymu oherwydd camymddwyn), felly gallwch chi ac eraill osgoi ymarfer gwael
  • Mae Cofrestrau Achrededig yn cael eu cydnabod a chefnogi gan randdeiliaid allweddol yn y Deyrnas Unedig.

Mae ymarferwyr sy’n ymroddedig i safonau uchel yn dewis ymuno â Chofrestr Achrededig. Mae cyflogwyr a chomisiynwyr cyfrifol yn dewis ymarferwyr ar Gofrestrau Achrededig.

Rydym yn argymell bod y cyhoedd yn gweld ymarferwyr sydd ar Gofrestr Achrededig (neu Gofrestr Statudol) yn unig. Chwiliwch am ein nod ansawdd y bydd ymarferwyr ar Gofrestrau Achrededig yn eu harddangos.