Skip to main content

Helpwch fi i ddewis

Pan fyddwch yn dewis ymarferwr iechyd neu ofal, dyma ambell beth y gallech ei ystyried.

Ydw i’n gwybod pa ofal, driniaeth neu therapi ydw i eisiau?

Os nad ydych yn siŵr, efallai yr hoffech drafod eich anghenion gyda’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd neu ofal arall. Neu gallwch gysylltu ag un o’r Cofrestrau Achrededig ar ein rhestr a byddant yn trafod hyn gyda chi. Gall nifer o ymarferwyr iechyd a gofal weithio gydag ystod o broblemau.

Ydw i’n gwybod pa lefel o addysg neu hyfforddiant sydd gan yr ymarferwr?

Mae gan ymarferwyr iechyd a gofal ar Gofrestrau Achrededig ystod o wahanol gymwysterau. Gallwch weld gwybodaeth ar wefannau'r Cofrestrau Achrededig a gofyn i'r ymarferwr am ragor o wybodaeth.

Mae’r holl Gofrestrau Achrededig yn bodloni ein safon addysg.

Cofiwch nad yw’r Awdurdod yn achredu’r triniaethau felly dylech sicrhau eich bod yn deall beth ydyn nhw a pha mor dda maent yn gweithio.

Rhai cwestiynau y gallech eu gofyn:

  1. Beth alla i ddisgwyl pan fyddaf yn dod i’ch gweld?
  2. A ydych chi wedi helpu pobl fel fi o’r blaen?
  3. Beth alla i wneud os nad ydw i'n hapus?
  4. A oes tystiolaeth y bydd hyn yn gweithio?
  5. Allwch chi esbonio i fi pa fath o dystiolaeth sydd yna ynglŷn â’r driniaeth hon?
  6. Pa mor gyfrinachol yw’r hyn rydw i’n ei ddweud wrthych chi?