Skip to main content

Sut i gwyno amdanom

Rydym eisiau i bawb sy'n dod i gysylltiad â ni gael y profiad gorau posibl. Rydym yn croesawu eich adborth ynghylch sut ydyn ni'n cyflawni ein gwaith er mwyn i ni allu gwella.

Rydym yn deall bod pethau'n mynd o chwith weithiau a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i unioni hyn. Os ydych chi eisiau gwneud cwyn ynghylch ein staff neu un o aelodau ein Bwrdd, bydd ein canllawiau cwyno ar y dde yn eich helpu i wneud hyn ac yn esbonio beth fyddwn ni'n ei wneud. Os ydych chi eisiau cyflwyno cwyn, gallwch gysylltu â Suzanne Dodds, ein Rheolwr Llywodraethu a Chydymffurfiad, trwy ffonio 020 7389 8030 neu anfon e-bost at Suzanne Dodds. Neu, gallwch ysgrifennu at Suzanne yn y cyfeiriad isod. Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol, gallwch hefyd gysylltu â ni yn defnyddio ein ffurflen ar-lein.

Mae'n ddrwg gennym, ond ni allwn ymchwilio i gwynion ynghylch y rheolyddion na chofrestrau achrededig, gan fod y rhain yn sefydliadau annibynnol ac nid oes gennym y grym i wneud hynny. Gallwch ein helpu i ddiogelu'r cyhoedd, fodd bynnag, trwy rannu eich profiad gyda ni.

I gael canllaw cyffredinol ar wneud cwynion am iechyd a gofal, gweler ein Gwybodaeth Iechyd a Gofal.

Helpwch ni i amddiffyn y cyhoedd

Gallwch ein helpu trwy rannu eich profiad gyda ni