Skip to main content

Aelodau'r bwrdd 

Alan Clamp - Prif Weithredwr

Prif Weithredwr

Prif Weithredwr

Daeth Alan Clamp yn Brif Weithredwr yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar 1 Tachwedd 2018. Cyn hynny roedd yn Brif Weithredwr yr Awdurdod Diwydiant Diogelwch (SIA). Mae’r SIA yn gorff cyhoeddus sy'n rheoleiddio diogelwch preifat yn y Deyrnas Unedig. Mae’n cefnogi blaenoriaethau allweddol y Swyddfa Gartref trwy gyfrannu i leihad ac atal troseddau, ac i ddiogelu'r cyhoedd.

Yn flaenorol roedd Alan yn Brif Weithredwr yn yr Awdurdod Meinwe Dynol (HTA), rheoleiddiwr annibynnol a noddir gan yr Adran Iechyd. Cyn gweithio yno, fe weithiodd mewn rheoleiddio yn y sector addysg, yn cynnwys nifer o flynyddoedd yn Ofsted.

Yn ogystal â gweithio am bron i 20 mlynedd mewn rheoleiddio, mae Alan wedi gwasanaethu ar y Grŵp Biometreg a Moeseg Fforensig Cenedlaethol yn y Swyddfa Gartref ac fel cynghorydd rheoleiddiol i Fwrdd Safonau'r Bar. Mae Alan yn aelod o Fforwm y Rheolyddion yn y London School of Economics.

Amrat Khorana - Aelod o'r Bwrdd Gweithredol

Aelod o'r Bwrdd Gweithredol

Mae Amrat Khorana yn aelod Bwrdd Cyswllt.

Mae Amrat Khorana yn meddu ar BSc mewn Gwyddor Biofeddygol ac MSc mewn Imiwnoleg. Treuliodd Amrat y rhan fwyaf o'i yrfa wyddonol gynnar yn y byd academaidd, ymchwil a dysgu, gan gynnwys gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Northampton yn ei Adran Imiwnoleg.

Mewn gwaith arall fel ymgynghorydd llawrydd, mae Amrat wedi darparu gwasanaethau dadansoddi a sicrhau ansawdd mewn ffarmacoleg i sicrhau diogelwch datblygu cyffuriau ar gyfer treialon clinigol dynol, ac mae wedi gwasanaethu fel archwiliwr lleyg i Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Amrat wedi cefnogi addysg a hyfforddiant y gymuned biowyddoniaeth ledled y Deyrnas Unedig, yn ogystal â gweithlu'r GIG yn Ysbyty Great Ormond Street ac yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gofal Iechyd Homerton. Mae ei waith presennol yn cynnwys gweithio gydag arbenigwyr pwnc i ddatblygu’r gwasanaeth addysg ar gyfer staff y GIG, defnyddio technoleg ddigidol, ac ymgynghori ar gynllunio’r cwricwlwm i sicrhau ei fod yn ddiogel, yn gynhwysol ac yn hygyrch.

Cadeirydd - Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod

Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod

Caroline Corby yw Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod

Bu Caroline Corby yn gweithio yn Ninas Llundain am 13 yn arbenigo mewn ecwiti preifat. Mae wedi gwasanaethu ar nifer o fyrddau yn y sector preifat a chyhoeddus ar draws nifer o ddiwydiannau a gwasanaethau. Mae Caroline hefyd wedi cadeirio achosion addasrwydd i ymarfer ar gyfer nifer o reolyddion iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal â'i rôl yn yr Awdurdod Safonau Proffesiynol, mae Caroline yn Gadeirydd Bwrdd Parôl Cymru a Lloegr ac yn Gadeirydd One Housing Group, cymdeithas dai wedi ei lleoli yn Llundain.

Yn ogystal â’i rôl fel Cadeirydd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol, mae Caroline hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Parôl Cymru a Lloegr, yn Gadeirydd One Housing Group, yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ac yn aelod o bwyllgor rheoli y Fforwm Cadeiryddion Cyhoeddus, corff a arweinir gan aelodau sydd â chylch gwaith i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus yn y DU.

Dr Tom Frawley CBE - Aelod o’r Bwrdd

Tom Frawley - Aelodaur bwrdd

Aelod o’r Bwrdd

Mae Tom Frawley CBE yn aelod o’r Bwrdd.

Ymunodd Tom â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel Hyfforddai Graddedig yn 1971. Yn 1973 fe'i penodwyd yn Weinyddwr Uned yn Ysbyty Ulster, Dundonald ac yn ddiweddarach aeth ei yrfa yn y gwasanaeth iechyd ag ef i Ogledd a Gorllewin Belfast a Lisburn. Yn 1980 fe'i penodwyd yn Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth HSS Londonderry, Limavady a Strabane. Yn 1981 fe'i penodwyd yn Brif Swyddog Gweinyddol ar Fwrdd Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Western, yn 31 oed, yr ieuengaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei benodi i swydd o'r fath, ac yn 1985, wedi gweithrediad Adroddiad Griffiths, fe'i penodwyd yn Rheolwr Cyffredinol y Bwrdd.

Daeth yn Ombwdsmon y Cynulliad a Chomisiynydd Gogledd Iwerddon ar gyfer Cwynion ym Medi 2000. Yn 2001, fel Ombwdsmon, gofynnodd Pwyllgor Safonau a Breintiau'r Cynulliad iddo fod yn Gomisiynydd dros dro ar gyfer Safonau yn y Cynulliad.

Yn 2004, etholwyd Tom gan ei gyd Ombwdsmyn yn Ewrop i'w cynrychioli fel Cyfarwyddwr Rhanbarth Ewrop y Sefydliad Ombwdsmyn Rhyngwladol ac yn aelod o Fwrdd y Byd sy'n goruchwylio gwaith byd eang y Sefydliad. Hefyd yn 2004, cafodd Tom ei benodi i Gyngor Cynghori Alumni Cymrodorion Eisenhower Philadelphia i gynrychioli ynys Iwerddon yn y fforwm hwnnw, swydd a ddaliodd tan 2008. Ym Medi 2006, derbyniodd Tom y wobr anrhydeddus gan Brifysgol Ulster o statws a theitl Athro Gwadd Arweinyddiaeth yn yr Ysgol Fusnes a'r Ysgol Rheoli Cyfrifyddu.

Yn Nhachwedd 2006, etholwyd Tom yn Ddirprwy Lywydd Bwrdd y Byd y Sefydliad Ombwdsmyn Rhyngwladol (IOI), swydd a ddaliodd tan Ragfyr 2012. Yn 2008, derbyniodd Tom CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Ymddeolodd Tom fel Ombwdsmon Gogledd Iwerddon ym Mawrth 2016

 

Frances Done CBE - Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

Frances Done -  Aelodaur bwrdd

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae Frances Done yn aelod o’r Bwrdd ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg.

Mae Frances yn Gyfrifydd Siartredig y mae ei gyrfa wedi rhychwantu'r sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector.

Ar hyn o bryd mae Frances yn Ddirprwy Gadeirydd Panel Gwelliant Annibynnol Birmingham. Penodwyd y Panel gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol i fonitro a chefnogi Cyngor Dinas Birmingham wrth weithredu ei raglen gwelliant.

Mae Frances yn Ymddiriedolwr, a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg, ar Ymddiriedolaeth y Camlesi ac Afonydd, elusen gyda chyfrifoldeb dros ofalu am 2,000 o filltiroedd o ddyfrffyrdd yng Nghymru a Lloegr.

Yn flaenorol, bu Frances yn gwasanaethu fel Cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid rhwng 2008 a 2014. Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn goruchwylio'r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr ac yn comisiynu'r sefydliadau diogel ar gyfer pobl ifanc yn y ddalfa.

Rhwng 1991 a 1998 hi oedd Cyfarwyddwr Cyllid cyntaf ac yna Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Rochdale.

Roedd Frances hefyd yn Brif Weithredwr Manceinion 2002 – Pwyllgor Trefnu llwyddiannus Gemau'r Gymanwlad XVII – a greodd etifeddiaeth economaidd, chwaraeon a diwylliannol arwyddocaol ar gyfer dinas Manceinion.

O 2003 i 2006 roedd Frances yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Llywodraeth Leol, Tai a Chyfiawnder Troseddol yn y Comisiwn Archwilio gyda chyfrifoldeb dros waith archwilio ac arolygu'r Comisiwn parthed llywodraeth leol yn Lloegr.

 

Mae Juliet Oliver yn aelod o'r Bwrdd - Mae Juliet Oliver yn aelod o'r Bwrdd

Mae Juliet Oliver yn aelod o'r Bwrdd

Mae Juliet Oliver yn aelod o'r Bwrdd

Juliet Oliver yw Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Gweithredol yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Mae Juliet yn arbenigo mewn cyfraith a pholisi rheoleiddio. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu Safonau a Rheoliadau’r SRA a threfniadau corfforaethol/llywodraethu. Cyn hynny, fel partner yn y cwmni cyfreithiol Fieldfisher, bu’n gweithredu ar ran cyrff rheoleiddio ar draws sectorau gan gynnwys gofal iechyd a’r gyfraith. Yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol cynghorodd ar ymchwiliadau cyhoeddus Shipman a Chanol Swydd Stafford, a chwaraeodd rôl arweiniol wrth ddylunio ei weithdrefnau addasrwydd i ymarfer ac ailddilysu.

Mae Juliet yn ymddiriedolwr y Gronfa Les Feddygol Frenhinol. Mae ganddi hefyd brofiad o eistedd fel aelod o Bwyllgor Safonau Proffesiynol Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli, fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwilio ac Archwiliwr Achos yn y Cyngor Optegol Cyffredinol, ar Bwyllgor Archwilio Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Phwyllgor Iechyd Meddwl ac Anabledd Cymdeithas y Gyfraith.

Moi Ali - Aelod o'r Bwrdd

Moi -Aelodaur bwrdd

Aelod o'r Bwrdd

Mae Moi Ali yn aelod o'r Bwrdd

Mae gan Moi bron i 30 mlynedd o brofiad mewn cyfathrebu a hyfforddiant, yn arbennig o fewn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae wedi ysgrifennu 20 o lyfrau ar amrywiol agweddau o farchnata a chyfathrebu, ar gyfer cyhoeddwyr blaenllaw megis Dorling Kindersley, ac mae ei llawlyfr cyfathrebu ar gyfer gweithwyr gofal yn cael ei gyhoeddi yn Chwefror 2017.

Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr a chadeirydd anweithredol profiadol. Ar hyn o bryd mae'n Aelod o'r Bwrdd ar Awdurdod Heddlu'r Alban, Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban ac Education Scotland. Mae'n eistedd ar fwrdd llywodraethu Prifysgol Napier Caeredin mewn rhinwedd wirfoddol.

Moi oedd Adolygydd Cwynion Barnwrol cyntaf yr Alban ac mae ei rolau blaenorol ar Fyrddau yn cynnwys Dirprwy Lywydd rheoleiddiwr gofal iechyd mwyaf y byd, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth; Aelod o Fwrdd Postwatch; ac Aelod Annibynnol i'r Cyngor, Postal Redress Service.

Mae hefyd wedi bod yn Llysgennad Apwyntiadau Cyhoeddus a mentor ar y rhaglen arweinyddiaeth gyhoeddus; ac yn Aelod o'r Corff Adolygu, Swyddfa Dros Gwynion Barnwrol (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder).

Roedd Moi ar restr derfynol y Gwobrau UK Asian Women of Achievement 2010 a Gwobrau Scottish Asian Women 2014. 

 

Nick Simkins - Yn aelod o’r Bwrdd

Yn aelod o’r Bwrdd

Mae Nick Simkins yn aelod o’r Bwrdd ac yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae Nick Simkins yn aelod o’r Bwrdd ac yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Risg.

Mae Nick yn Gyfrifydd Siartredig sydd wedi treulio ei yrfa fel Partner mewn cwmnïau cyfrifeg blaenllaw yn y DU.

Mae wedi gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat gan arbenigo mewn archwilio, llywodraethu a rheoli risg gyda sefydliadau blaenllaw’r llywodraeth, addysg, elusennau a dielw.

Mae gan Nick brofiad o fod yn gyfarwyddwr anweithredol ac yn gadeirydd pwyllgor archwilio mewn dau goleg addysg bellach mawr yn ogystal â gwasanaethu fel ymddiriedolwr i nifer o elusennau.

Mae Nick hefyd ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol ar gyfer cymdeithas dai ac mae’n aelod cyfetholedig o bwyllgor archwilio Coleg Addysg Bellach. 

Yr Athro Marcus Longley - Aelod o’r Bwrdd

Aelod o’r Bwrdd

Mae’r Athro Marcus Longley yn aelod o’r Bwrdd.

Marcus oedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg rhwng 2017 a 2021, a chyn hynny roedd yn Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rhwng 2013 a 2017.

Mae Marcus hefyd wedi gwasanaethu fel Aelod Bwrdd ar gyfer Cyngor Defnyddwyr Cymru, ac ar gyfer Llais Defnyddwyr Cymru a bu tan fis Awst 2017 yn Athro Polisi Iechyd Cymhwysol ac yn Gyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru. Mae bellach yn Athro Emeritws. Mae wedi bod yn Gynghorydd Arbenigol i Gomisiwn Bevan, ar ôl bod yn Aelod yno o’r blaen, ac mae’n Uwch Gydymaith yn Ymddiriedolaeth Nuffield.

Cafodd Marcus ei addysgu ym mhrifysgolion Rhydychen, Caerdydd a Bryste, a bu'n gweithio i'r GIG o 1981 hyd 1995. Cafodd ei ethol yn Gymrawd Cyfadran Iechyd Cyhoeddus y Coleg Brenhinol y Meddygon yn 2008.