Skip to main content

Cwrdd â'n Bwrdd 

Mae ein Bwrdd yn gyfrifol am bennu’r polisïau cyffredinol sy’n effeithio ar y modd rydym yn cyflawni’n gwaith. Maent yn gosod ein cyfeiriad strategol ac yn cymeradwyo ein cynllun busnes a chyllideb flynyddol.

Mae yna wyth aelod:

  • Cadeirydd a benodir gan y Cyfrin Gyngor
  • Tri aelod anweithredol; un wedi ei benodi gan Weinidogion yr Alban, un wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru a’r trydydd wedi ei benodi gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon
  • Tri aelod gweithredol a benodir gan y Cyfrin Gyngor
  • Penodir un aelod gweithredol gan ein Bwrdd ei hun.

Mae gan ein Bwrdd wahanol sgiliau a chefndiroedd. Nid ydynt yn weithwyr iechyd na gofal oherwydd nid yw'r ddeddfwriaeth a'n sefydlodd yn caniatáu i unrhyw un sydd wedi bod yn aelod o broffesiwn a reoleiddir i eistedd ar ein Bwrdd.

Rydym yn croesawu'r cyhoedd yn ein cyfarfodydd Bwrdd ac yn agored i gwestiynau ar bob adeg. 

Croeso i'n cyfarfodydd

Chwiliwch yma am restr o ddyddiadau